Dŵr Cymru Welsh Water

Syrfëwr Meintiau

Dŵr Cymru Welsh Water  •  £47k - £55k/yr  •  Onsite  •  44 minutes ago
Apply
AI can make mistakes so check important info. Chat history is never stored.

Job Description

Rhif Cais y Swydd 8785 Math o Waith Parhaol Swyddogaeth y Swydd Rheoli Costau Cwmpas Cyflog £47,492.00 -£54,618.00

Lleoliad

Dyddiad cau ceisiadau

South East Hub

Byddwn yn adolygu ceisiadau yn wythnosol nes byddwn wedi llenwi'r swydd gyda'r ymgeisydd addas.

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

  1. Darparu rheolaeth masnachol a chostau broffesiynol ar gyfer sawl prosiect cyfalaf ar yr un pryd
  2. Rhoi cymorth a chyngor i dîm o reolwyr prosiect a pheirianwyr prosiect ar bob agwedd ar reoli contractau masnachol o fewn Fframweithiau Dŵr Cymru
  3. Cynorthwyo gyda chaffael a dyrannu gwaith cyfalaf i gontractwyr fframwaith
  4. Cynnal dadansoddiad manwl o gostau ar ffurflenni tendro ar gyfer prosiectau cyfalaf
  5. Paratoi pob agwedd ar orchmynion gwaith gan sicrhau bod holl brosesau cymeradwyo prosiectau Dŵr Cymru yn cael eu dilyn
  6. Dilysu a chytuno ar werthoedd contractau a chostau targed gyda chontractwyr fframwaith
  7. Nodi, dadansoddi a datblygu ymateb i risgiau sydd ynghlwm wrth brosiectau masnachol, gan sicrhau bod risgiau’n cael eu deall, eu gwerthfawrogi a’u dyrannu’n gywir
  8. Cynnal prisiadau misol o’r gwaith sydd wedi’i gwblhau a’i argymell i’w dalu
  9. Rheoli llif gwybodaeth ariannol rhwng cyllid, timau SAP, rheolwyr prosiect a chontractwyr
  10. Rhoi cyngor ar hawliadau contractiol, hysbysiadau rhybuddio cynnar a digwyddiadau iawndal
  11. Cytuno cyfrifon terfynol ar lefel contractwyr a phrosiectau a’u cymeradwyo
  12. Ymgymryd â dadansoddiad ‘gwersi a ddysgwyd’ priodol ar ôl i brosiect gael ei gwblhau er mwyn sicrhau bod proses welliant barhaus yn cael ei chymhwyso.
  13. Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatrys anghydfodau rhwng trydydd partïon a Dŵr Cymru
  14. Deall goblygiadau Rheoliadau Iechyd a Diogelwch
  15. Sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rheoli’n gywir ac yn amserol
  16. Cyflawni dyletswyddau eraill fel y cyfarwyddir er mwyn diwallu anghenion y busnes

Amdanoch chi

Profiad, cymwysterau a sgiliau hanfodol

  • Cymwys i lefel gradd (neu brofiad perthnasol sylweddol cyfatebol) ac yn gweithio tuag at statws siartredig.
  • Gwybodaeth, profiad neu ddealltwriaeth o NEC a ffyrdd eraill o weinyddu contractau.
  • Sgiliau dadansoddi a deall data rhagorol a’r gallu i echdynnu gwybodaeth berthnasol a’i chyflwyno mewn ffordd resymegol a strwythuredig.
  • Profiad o reoli costau, sy’n dangos hanes blaenorol rhagorol o gyflawni prosiectau’n fasnachol yn amrywio o £25k i £2m.
  • Cyfathrebwr a chwaraewr tîm rhagorol sy’n deall pwysigrwydd perchnogaeth ac atebolrwydd.
  • Profiad a dealltwriaeth o Ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.
  • Y gallu i weithio ar y cyd mewn amgylchedd tîm cyflawni peirianneg amlddisgyblaethol.
  • Y gallu i weithio i amserlenni rheoleiddiol a phrosiectau tynn.
  • Trwydded yrru ddilys y DU.

Werth ei wybod

  • Lleoliad: Gall y rôl hon gael ei lleoli naill ai yn Hwb y De-ddwyrain neu Hwb y De-orllewin, a fydd yn cael ei drafod yn ystod y broses gyfweld yn seiliedig ar eich lleoliad presennol.
  • Patrwm gweithio: Gweithio hybrid, gydag o leiaf dri diwrnod yr wythnos yn cael eu treulio ar y safle neu yn y swyddfa a dau ddiwrnod yn gweithio o bell.
  • Teithio: Bydd angen teithio’n rheolaidd i safleoedd yn y rhanbarth y cytunwyd arno. Gellir hawlio treuliau milltiroedd busnes a chostau tanwydd yn unol â pholisi’r cwmni.
  • Lwfans car: Sylwch nad yw’r rôl hon yn cynnwys lwfans car.

Buddion

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:

  • Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
  • Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
  • Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
  • Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
  • Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
  • Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
  • Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
  • Cynllun beicio i'r gwaith
  • Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
  • Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
  • Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
  • Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
  • Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan!

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.

Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.

Pwy ydyn ni

Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.

Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.

Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.

Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY

© Dŵr Cymru Cyf 2019.

Dŵr Cymru Welsh Water

About Dŵr Cymru Welsh Water

Bath-times, half-times, party-times, meeting-times, and cooking-times. Our water brings Wales to life! It helps 3 million people stay healthy and clean every day. It keeps businesses running smoothly and life flowing along.

At Welsh Water, we put every penny, every ounce of energy, and a lot of love into bringing Wales to life, by putting clean water into homes and businesses, and taking wastewater safely away.

We’re the engineers and scientists, rangers and customer advisors that keep the taps flowing and keep our customers happy. And we’re thousands of other incredibly diverse roles with National responsibility. All working to the highest standards of satisfaction. In a business where safety and care for every colleague is never compromised.

We’re in every community. And for every community. We’re Welsh Water. The people with the passion to bring futures to life in a business that brings Wales to life!

Privacy Policy: https://www.dwrcymru.com/privacy

Industry
Energy & Utilities
Company Size
1,001-5,000 employees
Headquarters
Cardiff, GB
Year Founded
1989
Social Media