Wrexham County Borough Council

Social Worker - Fostering

Wrexham County Borough Council  •  £39k - £42k/yr  •  Wrexham, GB (Onsite)  •  3 hours ago
Apply
AI can make mistakes so check important info. Chat history is never stored.

Job Description

Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol / Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ymuno â'r Gwasanaeth Maethu. Mae'r Gwasanaeth Maethu yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni canlyniadau diogel a chadarnhaol i blant a phobl ifanc. Mae rhai o'i swyddogaethau yn cynnwys recriwtio gofalwyr maeth, asesu, hyfforddi a chefnogi Gofalwyr Maeth Generig, Cefnogwyr Gofalwyr Maeth, Gofalwyr Maeth Cysylltiedig, teuluoedd â Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig, Llety â Chymorth a Gofalwyr Maeth Pan Fydda i’n Barod. Mae'r Gwasanaeth Maethu yn cynnwys 4 hyb pwrpasol, ac mae gan bob un ohonynt swyddogaethau, rolau a chyfrifoldebau gwahanol. Fel Gweithiwr Cymdeithasol yn y Gwasanaeth Maethu, byddwch chi wedi'ch lleoli o fewn un o'r Hybiau pwrpasol hyn ond gallech hefyd symud rhwng Hybiau yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth. Bydd deiliad y swydd yn elwa o gydweithwyr a rheolwyr cefnogol ac amgylchedd gwaith cadarnhaol.

Mae gennym radd gyrfa ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sy’n golygu y gellir penodi ymgeisydd llwyddiannus i fod yn Weithiwr Cymdeithasol (G09) neu’n Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (G10), yn dibynnu ar ddyfarniadau / cymwysterau arbenigol neu dystiolaeth o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad cyfatebol. Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a'r fanyleb person am ragor o fanylion a chadarnhewch ar ddechrau’r adran Datganiad Profiad yn y ffurflen gais pa rôl rydych chi'n gwneud cais amdani.

Peidiwch â phoeni os nad ydych ar hyn o bryd yn bodloni'r meini prawf / gofynion o ran profiad cyfatebol ar gyfer y swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithwyr cymdeithasol ac mae’n cynnig amgylchedd rheoli cefnogol a fframwaith dilyniant i weithwyr cymdeithasol er mwyn cefnogi datblygiad eich gyrfa yn y dyfodol.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau, cysylltwch drwy e-bost â Rosie.Hughes@wrexham.gov.uk neu Rosie Hughes.

Qualifications

An exciting opportunity has arisen for a Social Worker / Experienced Social Worker to join the Fostering Service. The Fostering Service plays a vital role in achieving safe and positive outcomes for children and young people. Some of it’s functions include the recruitment of foster carers, the assessment, training and support of Generic Foster Carers, Champion Foster Carers, Connected Foster Carers, families with Special Guardianship Orders, Supported Lodgings Hosts and When I’m Ready Foster Carers. The Fostering Service comprises of 4 dedicated hubs, each of which have differing functions, roles and responsibilities. As a Social Worker within the Fostering Service, you will be based within one of these dedicated Hubs but could also move between Hubs depending on the needs of the service. The post holder will benefit from supportive colleagues and management and a positive working environment.

We have a career grade for social workers where based on specialist awards/ qualifications or evidenced equivalent skills, knowledge and experience, a successful candidate can be appointed as either Social Worker (G09) or Experienced Social Worker (G10). Please refer to the job description and person specification for more details and confirm at the start of your Experience Statement section of the application form which role you are applying for.

Don’t worry if you don’t currently meet the criteria/ equivalent experience requirements for the Experienced Social Worker role. The Council is committed to the development of its social workers and has in place a supportive management environment and a Social Worker progression framework to support your future career development.

For further information or an informal discussion, please contact Rosie Hughes Rosie.Hughes@wrexham.gov.uk

Benefits

Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi'i lleoli yng ngogledd ddwyrain Cymru ac mae'n falch o'i threftadaeth Gymreig a'i hunaniaeth ddiwylliannol. Dros y blynyddoedd mae wedi tyfu i adlewyrchu poblogaeth sy'n aml-grefyddol ac aml-ethnig gan adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau.

Wedi'i chanoli ar ddinas Wrecsam, sy'n swatio rhwng mynyddoedd Cymru a gwastadeddau Swydd Gaer, mae'n lleoliad sy'n gallu cynnig y gorau o'r ddau fyd i chi ac rydym yn falch o'n statws dinas (a ddyfarnwyd yn 2022 pan roddwyd i ni'r statws hwn, y seithfed ddinas yng Nghymru i'w gael).

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn Gyngor unedol sy'n darparu ystod eang o wasanaethau gyda'r nod o wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau trwy gydweithio â phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda ffocws ar ddatblygu cynaliadwy, lles cymunedol, a gwella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.

Mae'r cyngor yn gyflogwr cynhwysol gyda gweithlu o tua 5,500, sy'n cynnig rolau amrywiol, hyfforddiant a datblygiad a chyfleoedd gyrfa gwerth chweil. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwerthfawrogi arloesedd, dwyieithrwydd yn Gymraeg a Saesneg, ac yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir.

Fel Cyflogwr Hyderus ac Ymroddedig o ran Anabledd, mae'r cyngor yn sicrhau recriwtio a chefnogaeth hygyrch i weithwyr anabl gan gynnwys cynnig cyfweliad gwarantedig (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol). Yn ogystal, bydd cyn-filwyr yn derbyn cyfweliadau gwarantedig o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog os bodlonir meini prawf cymhwysedd (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol).

Mae buddion cyflogeion yn cynnwys:

  • Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Trefniadau gweithio hyblyg
  • Gwyliau blynyddol hael hyd at 32 diwrnod
  • Polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd sy'n cefnogi ymrwymiadau gofalu a theuluol
  • Cydbwysedd bywyd gwaith ac amser hyblyg (yn dibynnu ar rôl)
  • Aelodaeth hamdden gostyngol
  • Mynediad at Gynllun Gwobrwyo Wrecsam gyda gostyngiadau oddi ar fanwerthwyr blaenllaw yn genedlaethol ac yn lleol
  • Amrywiaeth o adnoddau iechyd a lles, er enghraifft:
  • Hyrwyddwyr Iechyd a Lles
  • Mynediad at raglen cymorth cyflogeion gyda cyngor ar gadw'n iach boed yn ariannol, yn feddyliol neu'n gorfforol:
  • Cwnsela (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
  • Cymorth emosiynol yn y fan a'r lle (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
  • Opsiwn i osod nodau hybu iechyd gyda newidiadau bach o fyw cynaliadwy
  • Cysylltu apiau iechyd i olrhain iechyd corfforol yn awtomatig a chyflawni nodau cynnydd
  • Blogiau, fideos, ryseitiau a mwy o adnoddau sy'n darparu ysbrydoliaeth a chymhelliant
  • Nodi'r risg o ddatblygu clefydau blaenllaw sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw ynghyd â sgoriau iechyd meddwl ac ariannol
  • Cyngor cyfreithiol, ariannol a defnyddwyr
  • Digwyddiadau ac ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn (e.e. Diwrnod Iechyd Tachwedd, Diwrnod Amser i Siarad, Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, Wythnos Ymwybyddiaeth o'r Haul, Wythnos y Menopos, Wythnos Iechyd Ariannol)
  • Caffi Menopos ac arweiniad
  • Caffi Gofalwyr Di-dâl a chanllawiau

Mae ein Cynllun Cyngor (2023–28) yn nodi ein blaenoriaethau ac rydym yn cyflawni'r rhain trwy ddilyn Gwerthoedd Nolan bywyd cyhoeddus (anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, agoredrwydd, gonestrwydd ac arweinyddiaeth) yn ogystal â'n Gwerthoedd Corfforaethol ein hunain:

  • Grymuso
  • Ymddiriedaeth a gonestrwydd
  • Dyhead
  • Cydweithredu
  • Gwneud gwahaniaeth
  • Tegwch

The County Borough of Wrexham, located in North East Wales, is proud of its Welsh heritage and cultural identity. Over the years it has grown to reflect a population that is multi-religious and multi-ethnic and complements the diversity of our communities.

Centred on the city of Wrexham, which nestles between the Welsh mountains and the Cheshire plains, it’s a location that really can offer you the best of both worlds and we are proud of our city status (awarded in 2022 when we became the seventh city in Wales).

Wrexham County Borough Council is a unitary Council which delivers a wide range of services aimed at improving the lives of Wrexham residents and surrounding communities. We are committed to providing services through collaboration with local and national partners. With a focus on sustainable development, community wellbeing, and improving the lives of Wrexham residents and surrounding communities, Wrexham is a fantastic place to work, live, and learn.

The council is an inclusive employer with a workforce of around 5,500, offering diverse roles, training and development and rewarding career opportunities. Wrexham County Borough Council values innovation, bilingualism in English and Welsh, and welcomes applicants from all backgrounds.

As a Disability Confident Committed Employer, the council ensures accessible recruitment and support for disabled employees including offering a guaranteed interview (where essential person specification items are met). Additionally, veterans will receive guaranteed interviews under the Armed Forces Covenant if eligibility criteria are met (where essential person specification items are met).

Employee benefits include:

  • Membership in the Local Government Pension Scheme
  • Flexible working arrangements
  • Generous annual leave up to 32 days
  • Family-friendly policies supporting caring and family commitments
  • Work-life balance and flexi time (dependent on role)
  • Discounted leisure membership
  • Access to Wrexham Reward Scheme with discounts off leading retailers nationally and locally
  • Health & well-being resources, for example:
  • Healthy & Wellbeing Champions
  • Employee assistance programme with advice on staying healthy financially, mentally or physically:
  • Counselling (available 24/7, 365 days a year)
  • In-the-moment emotional support (available 24/7, 365 days a year)
  • Option to set health-boosting goals with small, sustainable lifestyle changes
  • Connect health apps to track physical health and meet progress goals
  • Blogs, videos, recipes and more resources providing inspiration and motivation
  • Identify risks of developing leading lifestyle-related diseases with mental health and financial scores
  • Legal, financial and consumer advice
  • Health and wellbeing events and campaigns throughout the year (e.g., November Health Day, Time to Talk Day, Mental Health Awareness Week, Sun Awareness Week, Menopause Week, Financial Health Week)
  • Menopause Café and guidance
  • Unpaid Carer Café and guidance

Our Council Plan (2023–28) sets out our priorities for this period and we deliver these by following the Nolan Values of public life (selflessness, integrity, objectivity, accountability, openness, honesty and leadership) as well as our own Corporate Values:

  • Empowerment
  • Trust and honesty
  • Aspiration
  • Collaboration
  • Making a difference
  • Fairness
Wrexham County Borough Council

About Wrexham County Borough Council

Industry
Unknown
Company Size
Unknown
Headquarters
Unknown
Year Founded
Unknown
Social Media