British Council

Rheolwr Marchnata ar gyfer rhaglen Erasmus+ - Profiad Digidol a Mewnwelediadau Perfformiad   49545

British Council  •  £31k/yr  •  United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland (Hybrid)  •  1 day ago
Apply
AI can make mistakes so check important info. Chat history is never stored.

Job Description

Rydym yn cefnogi heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ledled y byd. Ers 90 mlynedd rydym wedi bod yn helpu i siapio dyfodol mwy disglair drwy addysg, y celfyddydau, diwylliant, iaith, a chreadigrwydd.

Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau, ac ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd.

Yn cysylltu. Yn ysbrydoli.

Teitl y Rôl:

Rheolwr Marchnata ar gyfer rhaglen Erasmus+ - Profiad Digidol a Mewnwelediadau Perfformiad 49545

Mae Adran Addysg Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mai’r British Council fydd yn gweithredu fel yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer rhaglen Erasmus+.

Ym mis Rhagfyr, daeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd i gytundeb gwleidyddol y byddai’r DU yn ail ymuno â chynllun Erasmus+ yn 2027. Mae'r cytundeb hwnnw bellach wedi'i ffurfioli’n gyfreithiol dan Gytundeb Masnach a Chydweithrediad yr UE a’r DU.

Mae gan y British Council ymrwymiad ers tro byd i gefnogi cyfnewid rhyngwladol. Bu’n un o bartneriaid arweiniol Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+ yn y DU rhwng 2014 a 2020. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwnaeth Erasmus+ gyfraniad arwyddocaol i gysylltiadau diwylliannol y DU, gan ariannu 8,091 o brosiectau, gyda 583,757 o drigolion y DU yn cymryd rhan, a chan ddyfarnu tua €1.1 biliwn i sefydliadau yn y DU.

Band Cyflog: Gradd 7

Cyflog: £30,839 gros y flwyddyn + £3,300 y flwyddyn - Lwfans Ardal Llundain (i weithwyr yn ardal Llundain yn unig)

Hyd y cytundeb: Cytundeb Cyfnod Penodol o 2 Flynedd, gyda phosibilrwydd o estyniad

Lleoliad: Caerdydd, Llundain, Belfast a Chaeredin

Gofynion Hawl i Weithio: Hawl gyfredol i weithio yn y DU. Nid yw’r British Council yn gallu cefnogi ceisiadau am fisas gwaith.

Dyddiad Cau i geisiadau: 24 Awst am 22:59 (amser y DU)

Rydym yn gweithredu ar y sail bod unrhyw gynnig swydd yn amodol ar gadarnhad gan y cleient fod cyllid ar gael ganddynt.

Pwrpas y Rôl:

Bydd deiliad y rôl yma'n arwain y gwaith o sicrhau’r profiadau digidol a theithiau defnyddwyr gorau posibl, yn ogystal â sicrhau llwybrau effeithiol i droi diddordeb yn weithredu ( conversion) ar draws platfformau digidol Erasmus+.

Byddwch hefyd yn gyfrifol am gyflawni gwaith dadansoddeg ddigidol, adrodd ar berfformiad, a chanfod mewnwelediadau o ddata, gan sicrhau bod data yn llywio penderfyniadau a gwelliant parhaus ar draws ein gweithgareddau marchnata.

Prif Gyfrifoldebau:

  • Arwain profiad digidol a thaith gyfan y defnyddiwr o'r dechrau i'r diwedd ar draws platfformau digidol Erasmus+, gan sicrhau llwybr di-drafferth - o ymwybyddiaeth i ymgeisio.
  • Rheoli a chael y gorau o wefannau, tudalennau glanio, HubSpot, a sianeli digidol eraill i wella ymgysylltiad a chyfraddau troi diddordeb yn weithredu.
  • Datblygu, cyhoeddi, a chynnal cynnwys digidol o ansawdd uchel sy’n cyd-fynd ag amcanion y rhaglen, anghenion y gynulleidfa, a chanllawiau brand.
  • Monitro, dadansoddi, ac adrodd ar berfformiad digidol gan ddefnyddio dadansoddeg, codau olrhain UTM, a mewnwelediadau defnyddwyr i ysgogi gwelliant parhaus.
  • Nodi a gwaredu rhwystrau sy’n codi fel rhan o deithiau ein defnyddwyr, a rhoi gwelliannau ar waith i wella profiad y defnyddiwr.
  • Sicrhau ein bod yn cynnal swyddogaethau, hygyrchedd, cydymffurfiaeth, a safonnau perfformiad y wefan, gan gynnwys datrys problemau technegol a dolenni toredig.
  • Cydweithio â thimau Digidol, Technoleg, Dylunio, Ymgyrchoedd, a Chynnwys i ddatrys problemau digidol yn effeithiol a gwella’r wefan.
  • Rheoli cysylltiadau â rhanddeiliaid mewnol, asiantaethau, a chyflenwyr, gan ddarparu briffiau clir a sicrhau cyflawni gweithgareddau marchnata o ansawdd uchel.
  • Cefnogi’r gwaith o gynllunio, cyflawni, mesuro perfformiad, a gwerthuso ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu, yn ogystal ag adrodd ar enillion ar fuddsoddiad (ROI).
  • Hybu arferion gorau ar gyfer marchnata digidol drwy fanteisio a gweithredu ar fewnwelediadau cynulleidfa, data perfformiad, a meincnodau perthnasol y diwydiant i ysgogi arloesedd a gwelliant parhaus

Gwybodaeth a Phrofiad Penodol i’r Rôl:

Hanfodol

  • Profiad o reoli gwefannau, platfformau digidol, systemau rheoli cynnwys (CMS) ac adnoddau ac offerynnau digidol cysylltiedig.
  • Profiad o sicrhau’r teithiau gorau posibl i ddefnyddwyr digidol i wella ymgysylltiad, hygyrchedd a chyfraddau troi diddordeb yn weithredu.
  • Profiad o ddefnyddio dadansoddeg ddigidol a mewnwelediadau defnyddwyr i nodi cyfleoedd ac ysgogi gwelliannau parhaus.
  • Profiad o gefnogi gwaith cynllunio, cyflawni, a gwerthuso ymgyrchoedd a gweithgareddau marchnata digidol.
  • Profiad o gyfrannu at ddylunio, gweithredu, a chyflawni strategaethau a chynlluniau marchnata sy’n cefnogi rhaglenni, darpariaethau neu wasanaethau.
  • Profiad o ddefnyddio offerynnau dadansoddeg ac adrodd i fonitro perfformiad, gwerthuso effeithlonrwydd a chanfod mewnwelediadau y gellir gweithredu arnynt.

Dymunol

  • Profiad o weithio yn y sectorau diwylliant, ieuenctid, chwaraeon, hyfforddiant, addysg neu elusennol
  • Profiad o weithio mewn sefydliad byd-eang neu ryngwladol.
  • Experience conceiving, delivering and optimising multi-channel digital marketing campaigns, including paid digital activity.
  • Profiad o lunio, cyflawni a sicrhau'r canlyniadau gorau posibl o ymgyrchoedd marchnata digidol aml-sianel, gan gynnwys gweithgareddau digidol taledig.
  • Profiad o ddadansoddi data, adrodd ar berfformiad, a datblygu byrddau gwaith ( dashboards).
  • Profiad o werthuso ymgyrchoedd marchnata a defnyddio mewnwelediadau i lywio gweithgareddau yn y dyfodol.

Gofynion Penodol

  • Gradd mewn marchnata, cyfathrebu neu bwnc perthnasol, neu lefel gyfatebol o brofiad y gellir ei dangos

Mae’r British Council yn cefnogi dulliau newydd o weithio (fel gweithio hybrid), yn amodol ar gymeradwyaeth lawn gan y rheolwyr llinell ac ar ein gallu i ddarparu lefel briodol o wasanaeth. Efallai na fydd hyn yn briodol ar gyfer pob rôl, ond gellir trafod y posibiliadau mewn cyfweliad

Teyrnas Unedig gysylltiedig a dibynadwy mewn byd sy'n fwy cysylltiedig a dibynadwy.

Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned, gan ein bod yn credu fod gweithlu amrywiol yn rhoi mwy o ddyfnder i'n gwaith. Mae'r Cyngor Prydeinig yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Mae'r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn helpu i herio agweddau, cynyddu dealltwriaeth o anabledd, a sicrhau bod staff yn cael eu dewis o'r gronfa dalent ehangaf bosibl. Rydym yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni gofynion sylfaenol y rôl. Rydym yn hapus i drafod unrhyw ofynion neu addasiadau penodol sydd eu hangen i'ch galluogi i gymryd rhan yn ein gwaith a’n gweithgareddau.

Datganiad Diogelu

Mae’r British Council wedi ymrwymo i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym yn credu fod pob plentyn ac oedolyn ym mhob rhan o'r byd yn haeddu byw mewn amgylchedd diogel, a bod hawl ganddynt i gael eu hamddiffyn rhag unrhyw fath o niwed, camdriniaeth neu gamfanteisio, fel y nodir yn Erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) 1989. Bydd penodiadau i swyddi lle mae cysylltiad uniongyrchol â grwpiau agored i niwed yn amodol ar wiriadau trylwyr yn unol â gofynion cyfreithiol ac â pholisiau Diogelu Oedolion a Phlant y British Council.

Os cewch unrhyw anawsterau wrth gyflwyno'ch cais, anfonwch e-bost atom yma: askhr@britishcouncil.org

British Council

About British Council

We support peace and prosperity by building connections, understanding and trust between people in the UK and countries worldwide.

We uniquely combine the UK’s deep expertise in arts and culture, education and the English language, our global presence and relationships in over 100 countries, our unparalleled access to young people and influencers and our creative sparkle.

We work directly with individuals to help them gain the skills, confidence and connections to transform their lives and shape a better world in partnership with the UK. We support them to build networks and explore creative ideas, to learn English, to get a high-quality education and to gain internationally recognised qualifications.

For more information, please visit: http://www.britishcouncil.org

Industry
Nonprofit & NGOs
Company Size
10,000+ employees
Headquarters
London, GB
Year Founded
1934
Social Media