Dŵr Cymru Welsh Water

Rheolwr Costau Gwastraff

Dŵr Cymru Welsh Water  •  £59k - £70k/yr  •  Onsite  •  1 hour ago
Apply
AI can make mistakes so check important info. Chat history is never stored.

Job Description

Rhif Cais y Swydd 9438 Math o Waith Parhaol Swyddogaeth y Swydd Rheoli Costau Cwmpas Cyflog £58,751.00 - £70,000.00 Lleoliad South East Hub

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

Ydych chi’n weithiwr costio proffesiynol profiadol sy’n chwilio am gyfle i lywio arfer gorau, meithrin hyder mewn costau a dylanwadu ar benderfyniadau buddsoddi mawr ar draws Dŵr Cymru Welsh Water?

Beth fyddwch chi’n ei wneud

  1. Arwain datblygiad a gweithrediad parhaus System Cronfa Ddata Costau Uned a Strategaeth Gostio gyson, sy’n seiliedig ar arfer gorau, ar draws y busnes.
  2. Rheoli a chefnogi’r Tîm Costio i gyflawni’r Cynllun Busnes blynyddol, gweithgareddau busnes fel arfer a blaenoriaethau datblygu parhaus.
  3. Rheoli’r gwaith o brisio Cynllun Busnes pum mlynedd y cwmni i’w gyflwyno i’r Rheoleiddiwr fel rhan o’r broses Adolygu Prisiau barhaus, gan gefnogi timau Buddsoddi a darparu tystiolaeth ar gyfer archwiliadau allanol ac ymholiadau.
  4. Rheoli’r gwaith o bennu Prisiau Targed ar gyfer pob prosiect Cyfalaf a gyflawnir o fewn y Gynghrair, yn unol â’r model Masnachol a’r contractau, gan ddarparu hyfforddiant, cymorth a llywodraethu priodol.
  5. Datblygu a chynnal arfer gorau o ran casglu data, llunio modelau cost a Chostio Oes Gyfan ar gyfer Capex, Opex (Totex), Costau Canlyniadol a Charbon, gan sicrhau methodoleg gostio gyson a meithrin hyder mewn costau ar draws y busnes.
  6. Rheoli’r gwaith o gasglu data ar draws gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff y cwmni a’i bartneriaid, gan ddarparu hyfforddiant, cymorth a llywodraethu, a chydlynu rhyngwynebau â systemau gan gynnwys Investment Manager (IM) ac Asset Investment Manager (AIM).
  7. Sefydlu a hyrwyddo hyder mewn costau ac arfer gorau drwy feincnodi costau uned yn fewnol ac yn allanol.
  8. Cynrychioli Dŵr Cymru Welsh Water a Strategaeth Asedau mewn modd cadarnhaol gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
  9. Arwain, cefnogi a datblygu aelodau’r tîm sy’n adrodd yn uniongyrchol drwy gyfarfodydd un-i-un rheolaidd, adolygiadau perfformiad, hyfforddiant a datblygiad, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau AD.
  10. Cyflawni dyletswyddau eraill yn ôl yr angen i gefnogi anghenion y busnes.

Amdanoch chi

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad Hanfodol

I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, bydd angen y canlynol arnoch:

Cymwysterau

  • Cymhwyster ar lefel gradd, gyda statws Siartredig yn ddymunol, neu brofiad perthnasol cyfatebol.

Gwybodaeth

  • Lefel uchel o wybodaeth a dealltwriaeth o systemau a gweithdrefnau costio.
  • Dealltwriaeth gadarn o Gostio Oes Gyfan mewn perthynas ag atebion a manylebau.
  • Gwybodaeth gynhwysfawr am Gontractau Masnachol a phennu Costau Targed ar draws timau cyflawni.
  • Dealltwriaeth gadarn o wasanaethau dŵr a dŵr gwastraff, gan gynnwys asedau seilwaith ac asedau nad ydynt yn seilwaith.
  • Dealltwriaeth gynhwysfawr o adolygiadau prisiau rheoleiddiol a’r gwahanol elfennau sy’n cyfrannu atynt.

Sgiliau

  • Sgiliau dylanwadu cryf, gyda’r gallu i ymgysylltu’n effeithiol ar bob lefel, gan gynnwys gyda rheoleiddwyr, y Bwrdd a thimau uwch-arweinwyr.
  • Y gallu i arwain a datblygu timau â sgiliau technegol, gan gynnwys unigolion sydd ag arbenigedd arbenigol.
  • Y gallu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol a chydweithredol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, gyda’r gallu i gyflwyno cysyniadau cymhleth yn glir a throsi gofynion yn rhaglen waith gredadwy.

Profiad

  • Profiad o sefydlu a gweithredu Strategaeth Gostio sy’n seiliedig ar arfer gorau ar draws busnes.
  • Profiad sylweddol yn y sector cyfleustodau dŵr, gan gynnwys rheoli asedau, cynllunio buddsoddiadau, carbon a rheoli costau.
  • Profiad amlwg o sefydlu prosesau a systemau o fewn busnes a chyflwyno cysyniadau cymhleth yn glir drwy weithdai, cyflwyniadau ac adroddiadau.

Werth ei wybod

  • Lleoliad: Mae’r rôl hon yn cynnig trefniant gweithio hybrid, gyda’r disgwyliad o weithio tua 2–3 diwrnod yr wythnos yn Nhŷ Awen, Casnewydd. Gellir hefyd ystyried lleoliadau gwaith eraill, gan gynnwys Gogledd Cymru.
  • Gweithio Hyblyg: Rydym yn hapus i drafod trefniadau gweithio hyblyg yn ystod y cyfweliad a byddwn yn ystyried hyblygrwydd rhesymol i’n helpu i ddod o hyd i’r person cywir ar gyfer y rôl.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch â Mark.Mills@dwrcymru.com.

Buddion

Pwy ydyn ni

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY

© Dŵr Cymru Cyf 2019.

Dŵr Cymru Welsh Water

About Dŵr Cymru Welsh Water

Bath-times, half-times, party-times, meeting-times, and cooking-times. Our water brings Wales to life! It helps 3 million people stay healthy and clean every day. It keeps businesses running smoothly and life flowing along.

At Welsh Water, we put every penny, every ounce of energy, and a lot of love into bringing Wales to life, by putting clean water into homes and businesses, and taking wastewater safely away.

We’re the engineers and scientists, rangers and customer advisors that keep the taps flowing and keep our customers happy. And we’re thousands of other incredibly diverse roles with National responsibility. All working to the highest standards of satisfaction. In a business where safety and care for every colleague is never compromised.

We’re in every community. And for every community. We’re Welsh Water. The people with the passion to bring futures to life in a business that brings Wales to life!

Privacy Policy: https://www.dwrcymru.com/privacy

Industry
Energy & Utilities
Company Size
1,001-5,000 employees
Headquarters
Cardiff, GB
Year Founded
1989
Social Media