Job Requisition Number 9459 Work Type Parhaol Job Function Hamdden a Chroeso Salary Range £25,949.00 perm (annualised hours)
Llanishen
Lisvane & Llanishen Reservoirs (Cardiff)
23:59 on 7th November 2026
Byddwch yn ymuno â thîm gwych o gydweithwyr yn y Ganolfan Ymwelwyr. Fel Parcmon Profiad Ymwelwyr, byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gynnal y safonau uchel o gyflwyniad safle a phrofiad ymwelwyr. Mae eich cyfrifoldebau yn cynnwys sicrhau glendid, diogelwch, ac ymddangosiad cyffredinol y safle, gan greu amgylchedd sy’n adlewyrchu ansawdd a gwerthoedd Dŵr Cymru.
Byddwch yn gweithredu fel presenoldeb amlwg ar draws y safle, gan fonitro gweithgarwch ymwelwyr i gynnal diogelwch a rheolau’r safle, ac yn mynd i’r afael â phroblemau yn brydlon ac yn broffesiynol. Trwy ymgysylltu rhagweithiol, byddwch yn darparu gwasanaeth gwresog, gwybodus a chynorthwyol i ymwelwyr, bob amser yn hyrwyddo delwedd gadarnhaol o Dŵr Cymru.
I lwyddo, bydd angen sgiliau cyfathrebu cryf, dull rhagweithiol a’r gallu i gadw’n ddigynnwrf ac yn broffesiynol ym mhob sefyllfa arnoch.
Rydych yn angerddol am ddarparu profiadau ymwelwyr rhagorol ac yn ymfalchïo mewn cynnal safonau uchel ar draws ein safleoedd. Rydych yn mwynhau gweithio yn yr awyr agored ac fel rhan o dîm, â dull rhagweithiol o ddatrys problemau a ffordd gyfeillgar a phroffesiynol wrth ymgysylltu â’r cyhoedd. Rydych yn hyblyg, yn barod i gynorthwyo gwahanol adrannau, ac yn gyfforddus yn ymdrin â dyletswyddau yn ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid a thasgau ymarferol fel cynnal a chadw’r tir a chyfleusterau.
Os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag: Owain.Manuel@dwrcymru.com
Mae gennym fuddion gwych, gan gynnwys:
· Gostyngiadau staff yn ein hatyniadau ymwelwyr
· Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi a gwisg yn cael ei ddarparu
· Man gweithio hyfryd
Tra hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw sydd wir yn poeni am ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd, ac am ofalu am ein hamgylchedd hardd.
Sylwer y gallem gau’r swydd hon yn gynharach os oes angen. Gallem hefyd ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol yn ddibynnol ar ddiddordeb.
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirdaon boddhaol, cadarnhad meddygol ar ôl cynnig, ac archwiliad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol arnom ar gyfer pob cyflogai newydd sy’n ymuno â’r busnes. Ar gyfer rhai swyddi, efallai y bydd angen archwiliadau ychwanegol a chadarnhad diogelwch, ac mae’r cynnig hwn yn amodol ar fodloni’r holl archwiliadau. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau’r archwiliadau hyn mewn e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig hwn.
Agorodd ein safle Atyniad Ymwelwyr yn Llys-faen a Llanisien yn 2023, yng ngogledd Caerdydd, ac mae ar agor drwy’r flwyddyn! Mae hwn yn gyfle cyffrous i unrhyw un a hoffai ymuno â Dŵr Cymru. Mae’r safle yn brolio adeilad Atyniad Ymwelwyr o’r radd flaenaf â bwyty sydd â lle i 150, balconi â golygfeydd dros y ddwy gronfa ddŵr, ystafelloedd newid grŵp a chiwbicl, gweithgareddau ar y tir a’r dŵr, man dysgu addysgol, cuddfannau ac ynysoedd adar, ystafelloedd cyfarfod a chaffi Grab & Go.
…Dewch i ymuno â’n tîm a gweithio yn y werddon werdd / las hon llai na 5 milltir o ganol dinas Caerdydd. Hoffech chi weld mwy? Cymerwch olwg yma: https://lisvane-llanishen.com/
Dŵr Cymru Cyf, a limited company registered in Wales No. 2366777. Registered office: Linea, Fortran Road, St. Mellons, Cardiff CF3 0LT
© Dŵr Cymru Cyf 2019.

Bath-times, half-times, party-times, meeting-times, and cooking-times. Our water brings Wales to life! It helps 3 million people stay healthy and clean every day. It keeps businesses running smoothly and life flowing along.
At Welsh Water, we put every penny, every ounce of energy, and a lot of love into bringing Wales to life, by putting clean water into homes and businesses, and taking wastewater safely away.
We’re the engineers and scientists, rangers and customer advisors that keep the taps flowing and keep our customers happy. And we’re thousands of other incredibly diverse roles with National responsibility. All working to the highest standards of satisfaction. In a business where safety and care for every colleague is never compromised.
We’re in every community. And for every community. We’re Welsh Water. The people with the passion to bring futures to life in a business that brings Wales to life!
Privacy Policy: https://www.dwrcymru.com/privacy