Dŵr Cymru Welsh Water

Hyfforddwr Gweithgareddau

Dŵr Cymru Welsh Water  •  Onsite  •  1 hour ago
Apply
AI can make mistakes so check important info. Chat history is never stored.

Job Description

Rhif Cais y Swydd 9467 Math o Waith Achlysurol Swyddogaeth y Swydd Hamdden a Chroeso Cwmpas Cyflog £13.45 yr awr Lleoliad

Llanishen (Caerdydd)

Ymgeisiwch CGâPh – byddwn yn adolygu ceisiadau yn wythnosol tan i’r swydd gael ei llenwi ag ymgeisydd addas.

Werth ei wybod

🌟 Cronfa Dalent Staff Dros Dro Tymhorol 2027

Hoffech chi ymuno â ni ar gyfer tymor 2027?

  • Contract: Dros dro / dim oriau
  • Hyfforddiant: Bwriedir cychwyn diwrnodau hyfforddi â thâl ym mis Ionawr 2027, gan gynnwys dau benwythnos cyn i’r tymor ddechrau yn ddelfrydol.
  • Patrwm gweithio: Bydd gwaith ar gael ar draws penwythnosau a gwyliau ysgol, gan gynnwys yn ystod cyfnod y gaeaf. Gan fod hwn yn gontract dim oriau, nid yw oriau wedi’u sicrhau.
  • Cronfa dalent: Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â’n cronfa dalent staff dros dro tymhorol 2027, y gellir cynnig gwaith dros dro ohoni yn seiliedig ar ofynion y busnes a’r gwaith sydd ar gael.

Hoffech chi wybod mwy?

Os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Dylan.Fletcher@dwrcymru.com, gan gynnwys Rhif Adnabod y Swydd yn y llinell bwnc.

Pwy ydyn ni

Ynglŷn â’n canolfan atyniad ymwelwyr...

Agorodd ein safle Atyniad Ymwelwyr yn Llys-faen a Llanisien yn 2023, yng ngogledd Caerdydd, ac mae ar agor drwy’r flwyddyn! Mae hwn yn gyfle cyffrous i unrhyw un a hoffai ymuno â Dŵr Cymru. Mae’r safle yn brolio adeilad Atyniad Ymwelwyr o’r radd flaenaf â bwyty sydd â lle i 150, balconi â golygfeydd dros y ddwy gronfa ddŵr, ystafelloedd newid grŵp a chiwbicl, gweithgareddau ar y tir a’r dŵr, man dysgu addysgol, cuddfannau ac ynysoedd adar, ystafelloedd cyfarfod a chaffi Grab & Go.

Dewch i ymuno â’n tîm a gweithio yn y werddon werdd / las hon llai na 5 milltir o ganol dinas Caerdydd. Hoffech chi weld mwy? Cymerwch olwg yma: https://lisvane-llanishen.com/

Amdanoch chi

Byddwch yn mwynhau gweithio gyda phobl a helpu ymwelwyr i gael profiad diogel, difyr a chofiadwy. Byddwch yn gyfforddus yn gweithio yn rhan o dîm, tra hefyd yn defnyddio eich menter eich hun pan fydd angen.

Profiad Hanfodol

  • Profiad o weithio gyda’r cyhoedd a darparu gwasanaeth cynorthwyol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
  • Profiad o ddilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Brwdfrydig am roi ein cwsmeriaid gyntaf bob dydd.
  • Gallu gweithio’n hyderus ar eich liwt eich hun ac yn rhan o dîm.
  • Dealltwriaeth o ddiogelwch dŵr.
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, â’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Saesneg.
  • Cyfforddus yn defnyddio TG ac yn dysgu systemau newydd. Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi defnyddio ein systemau o’r blaen, byddwn yn darparu’r hyfforddiant sydd ei angen arnoch.
  • Gonest a phroffesiynol yn eich agwedd.
  • Agored i adborth, dysgu a datblygu sgiliau newydd.

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

Byddwch yn rhan o’n tîm Gweithgareddau, gan helpu i ddiogelu a chynorthwyo cwsmeriaid sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr, gweithgareddau ar y tir a meithrin tîm, tra’n sicrhau safon uchel o iechyd a diogelwch bob amser.

Mae ein Canolfannau Gweithgareddau ar agor 7 diwrnod yr wythnos, felly bydd y swydd yn cynnwys gweithio fin nos, penwythnosau a gwyliau banc.

Yr hyn y byddwch yn ei wneud

  1. Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gan gyfarfod, cyfarch a helpu pob ymwelydd i gael y mwyaf o’i ymweliad, gan gynnwys mewngofnodi cwsmeriaid, ymateb i ymholiadau am weithgareddau ac archebion a derbyn taliadau.
  2. Cynorthwyo yn y ddarpariaeth o weithgareddau o ansawdd uchel ar y tir a/neu ar y dŵr, gan gynnwys rhaglenni meithrin tîm, yn unol â gofynion y Corff Llywodraethu Cenedlaethol (NGB) a Dŵr Cymru.
  3. Cynorthwyo gyda’r broses o logi offer gweithgareddau, gan gynnwys darparu sesiynau briffio effeithiol ar ddiogelwch, a chynorthwyo cwsmeriaid sy’n defnyddio offer ar y safle.
  4. Gweithio’n rhagweithiol yn rhan o dîm i baratoi a chlirio cyfleusterau ar-safle, tra’n helpu i gynnal cyflwr, diogelwch a glendid offer gweithgareddau i safon gyson uchel.
  5. Helpu i sicrhau diogelwch pawb ar y safle, gan gynnwys cyflogeion, y rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau a’r cyhoedd, gan ddilyn gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer adrodd digwyddiadau a chynnal diogelwch dŵr rhagorol.
  6. Cyfathrebu ag ymwelwyr mewn ffordd frwdfrydig, wybodus a chynorthwyol, gan ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a chyflwyno portread cadarnhaol ar gyfer Dŵr Cymru.
  7. Gweithio ochr yn ochr â’r tîm Parcmyn ar ddiogelwch a bioddiogelwch y cronfeydd dŵr, yn ogystal â chynorthwyo’r gwaith o gynnal a chadw’r safle a’i gadw’n daclus, gan gynnwys casglu sbwriel, glanhau toiledau, a chynnal a chadw adeiladau a’r safle.
  8. Helpu i sicrhau bod rheolau’r safle ac ymyl y dŵr yn cael eu dilyn, yn enwedig y rheol ‘dim nofio mewn cronfeydd dŵr heb ganiatâd’, amseroedd agor a chau, a threfnu ymwelwyr yn ddiogel yn ystod cyfnodau prysur.
  9. Gweithio ar y cyd â sefydliadau trydydd parti, gan gynnwys elusennau bywyd gwyllt a grwpiau gwirfoddolwyr, a chynorthwyo gweithgareddau cadwraeth, addysgol, mynediad cyhoeddus a hamdden, diwrnodau agored a digwyddiadau.
  10. Cynorthwyo’r tîm ehangach ac adrannau eraill, gan gynnwys y caffi neu’r tîm Parcmyn, fel sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes.

Buddion

Mae gennym fuddion gwych, gan gynnwys:

· Adolygiad cyflog blynyddol

· Gostyngiadau Staff ar gyfer ein hatyniadau ymwelwyr

· Rhoddir hyfforddiant llawn a darperir gwisg

· Man gweithio hyfryd

· Oriau gwaith hyblyg

Tra hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw sydd wir yn poeni am ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd, ac am ofalu am ein hamgylchedd hardd.

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY

© Dŵr Cymru Cyf 2019.

Dŵr Cymru Welsh Water

About Dŵr Cymru Welsh Water

Bath-times, half-times, party-times, meeting-times, and cooking-times. Our water brings Wales to life! It helps 3 million people stay healthy and clean every day. It keeps businesses running smoothly and life flowing along.

At Welsh Water, we put every penny, every ounce of energy, and a lot of love into bringing Wales to life, by putting clean water into homes and businesses, and taking wastewater safely away.

We’re the engineers and scientists, rangers and customer advisors that keep the taps flowing and keep our customers happy. And we’re thousands of other incredibly diverse roles with National responsibility. All working to the highest standards of satisfaction. In a business where safety and care for every colleague is never compromised.

We’re in every community. And for every community. We’re Welsh Water. The people with the passion to bring futures to life in a business that brings Wales to life!

Privacy Policy: https://www.dwrcymru.com/privacy

Industry
Energy & Utilities
Company Size
1,001-5,000 employees
Headquarters
Cardiff, GB
Year Founded
1989
Social Media