The Salvation Army UK and Ireland Territory

Gweithiwr Cymorth

The Salvation Army UK and Ireland Territory  •  £29k/yr  •  Wales, GB (Onsite)  •  4 hours ago
Apply
AI can make mistakes so check important info. Chat history is never stored.

Job Description

Sylwch fod Tŷ Tregenna yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Felly, yn eich rôl, byddai disgwyl i chi weithio mewn gwahanol leoliadau ar draws Merthyr Tudful (tan fis Ebrill 2027), gan adnabod a chefnogi darpar breswylwyr drwy waith allgymorth. Ar ôl cwblhau'r adeilad, bydd eich rôl yn trosglwyddo i'r gwasanaeth preswyl a byddwch yn rhan o rota'r gwasanaethau preswyl, gan ddarparu cymorth i breswylwyr yn y cartref bywyd.

Patrwm Gwaith: 40 awr yr wythnos (Dydd Llun – Dydd Gwener, 9am–5pm tan fis Ebrill 2027; wedi hynny, rota 8am–8pm sy'n cynnwys nosweithiau a phenwythnosau)

Dyddiad y Cyfweliad: I'w gadarnhau

Rydym yn chwilio am unigolyn caredig, creadigol a llawn cymhelliant i fod yn rhan allweddol o'n cartref bywyd newydd, Tŷ Tregenna, ym Merthyr Tudful.

  • Mae Tŷ Tregenna yn gartref bywyd newydd sbon, addas at y diben, sy'n gweithio gyda 19 o unigolion sy'n ei chael hi'n anodd ymgartrefu mewn lleoliadau llety dros dro eraill. Mae'r cartref bywyd yn darparu amgylchedd cefnogol i unigolion ag anghenion dwys a chymhleth, gan eu cefnogi i ddatblygu'r sgiliau bywyd a'r hyder sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i fyw'n annibynnol yn y dyfodol.

Rydym yn gweithio o fewn fframwaith sy'n ystyriol o anghenion seicolegol a thrawma, gan gefnogi oedolion sy'n profi digartrefedd. Ein nod yw gweithredu dull o ‘ddim troi allan', gan gynnig empathi, tosturi a dealltwriaeth. Rydym hefyd yn gweithredu model lleihau niwed, sy'n cynnwys cyflwyno rhaglen fio-seico-gymdeithasol.

Prif Gyfrifoldebau:

  • Bod yn rhan o dîm sy'n cefnogi oedolion unigol sy'n byw ar y safle ac yn y gymuned • Hwyluso cyfarfodydd cymorth, a chwblhau cynlluniau cymorth ac asesiadau risg gyda thrigolion

Bydd yr ymgeisydd (neu'r ymgeiswyr) llwyddiannus yn gallu:

  • Dangos gwybodaeth am y prif faterion sy'n wynebu pobl ddigartref
  • Dangos profiad o weithio mewn cyd-destunau allgymorth a phreswyl
  • Meddwl yn greadigol ac yn dosturiol, gyda'r gallu i ddatrys problemau
  • Gweithio mewn cytgord ag egwyddorion ysbrydol Byddin yr Iachawdwriaeth

Er mwyn cwblhau eich cais, lawrlwythwch a darllenwch broffil y swydd ac unrhyw atodiadau eraill.

Yn proffil y swydd, fe welwch y meini prawf sydd eu hangen ar gyfer y rôl; gwnewch yn siŵr eich bod yn ymdrin â'r rhain yn eich datganiad ategol, gan mai dyma'r sail ar gyfer ein proses llunio rhestr fer.

Bydd y penodiad yn amodol ar y canlynol:

  • Cyfeiriadau boddhaol.
  • Gwiriad cofnod troseddol – Datgeliad DBS (lefel Uwch) – sy'n cynnwys gwirio'r rhestr wahardd ar gyfer gweithio gydag oedolion.
  • Tystiolaeth o'ch Hawl i Weithio yn y DU, yn unol â gofynion y Swyddfa Gartref. Gan nad ydym yn noddwr trwyddedig, rhaid bod gan ymgeiswyr yr hawl i weithio yn y DU eisoes. Mae manylion ar sut i brofi eich Hawl i Weithio ar gael yma.(here.)

Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn hyrwyddo cyfle cyfartal yn weithredol i bawb sydd â'r cyfuniad cywir o dalent, sgiliau a photensial. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ystod eang o ymgeiswyr, gan gynnwys y rhai sydd â chofnodion troseddol.

Sylwch y bydd unrhyw weithwyr o Fyddin yr Iachawdwriaeth sydd wedi derbyn rhybudd o ddiswyddo, ac sy'n gwneud cais am y swydd hon, yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth.

Rydym yn cadw'r hawl i gau'r hysbyseb hwn yn gynharach os ydym o'r farn ein bod wedi derbyn digon o geisiadau.

Gan ein bod yn hyrwyddo cydraddoldeb yn y gweithle ac yn gyflogwr sy'n rhan o'r cynllun 'Arweinydd Hyderus o ran Anabledd' (Disability Confident Leader), rydym yn gwarantu cyfweliad i bob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol lleiaf ar gyfer y swydd wag.

The Salvation Army UK and Ireland Territory

About The Salvation Army UK and Ireland Territory

The Salvation Army is a worldwide Christian church and registered charity, which has been fighting against social inequality and transforming lives for over 150 years.

The Salvation Army expresses its faith through charitable action by working at the heart of communities across the UK and Ireland. We have over 600 churches and community centres where we offer friendship, practical help and support to some of the most disadvantaged people in our communities.

Motivated by our Christian faith we offer practical support and services to all who need them, regardless of ethnicity, religion, gender or sexual orientation. Our work includes:

Homelessness

Modern slavery

Poverty

Addiction

Campaigning and social policy

Older people

Community - debt advice, unemployment, isolation

Your support allows us to respond to the people who need us most.

Industry
Nonprofit & NGOs
Company Size
1,001-5,000 employees
Headquarters
London, GB
Year Founded
1865
Social Media