Dŵr Cymru Welsh Water

Dadansoddwr Masnachol

Dŵr Cymru Welsh Water  •  £36k - £39k/yr  •  Onsite  •  39 minutes ago
Apply
AI can make mistakes so check important info. Chat history is never stored.

Job Description

Rhif Cais y Swydd
8945 Math o Waith

Parhaol a Dros Dro

Swyddogaeth y Swydd
Rheoli Costau Cwmpas Cyflog
£35,833.00 -£39,163.00 Lleoliad
South East Hub Dyddiad cau ceisiadau

Dydd Sul, 30 Awst 2026

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

Fel dadansoddwr masnachol yn ein Tîm Gwasanaethau Datblygwyr, byddwch yn:

  • Cydgysylltu pob mater masnachol a chytundebol yn ymwneud â chwsmeriaid, gan gynnwys cyflwyno cynigion a chytundebau cyfreithiol
  • Llunio archebion prynu yn ôl yr angen
  • Prosesu anfonebau yn unol â gofynion amserlen y contract perthnasol
  • Darparu adroddiadau ar gyfer ceisiadau am dâl a thaliadau i gontractwyr
  • Darparu adroddiadau rheoli costau a rovide cost management reporting fel y gofynnir gan reolwyr y Gwasanaethau Datblygwyr
  • Sicrhau bod yr holl refeniw yn cael ei dderbyn yn unol â pholisïau adrannol a bod cwsmeriaid yn cael eu hysbysu’n llawn am bob gweithgaredd masnachol, gan gynnwys newidiadau i gwmpas y gwasanaeth a chostau
  • Paratoi Cyfrifon Terfynol i’w cymeradwyo o fewn mis (neu 7 diwrnod o gyflwyno ar gyfer cynlluniau Hunan-osod, a thargedau perthnasol rheoliadau eraill) o gwblhad technegol cynlluniau a sicrhau cloi masnachol effeithiol gyda chwsmeriaid
  • Cynorthwyo gyda rheoli’r berthynas fasnachol â chwsmeriaid allweddol a darparu adroddiadau o fath ‘datganiad o gyfrifon’ yn dri misol i gwsmeriaid allweddol
  • Helpu i ddarparu trosolwg o weithgareddau a gofynion cwsmeriaid i sicrhau’r gwasanaeth cyffredinol gorau
  • Darparu adroddiadau misol ar Gynigion a gyflwynwyd, sydd yn yr arfaeth ac a dderbyniwyd; gweithgareddau cwsmeriaid allweddol; risgiau a phroblemau masnachol cwsmeriaid
  • Gweithio gyda’r timau Masnachol i sicrhau bod yr holl refeniw / dyled sy’n ddyledus yn cael ei adennill yn briodol
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes

Amdanoch chi

Dealltwriaeth o’r sector datblygu eiddo

  • Gwybodaeth ymarferol am gynigion contract a dogfennau cyfreithiol cysylltiedig rhwng cwmnïau cyfleustodau a chwmnïau adeiladu eiddo
  • Yn ddelfrydol, profiad o reoli cleientiaid / cyfrifon / refeniw yn y sector cyfleustodau / peirianneg
  • Craff yn fasnachol ac yn ariannol
  • Sgiliau rheoli cwsmeriaid a rhanddeiliaid da
  • Cyfathrebwr rhagorol
  • Hynod drefnus ac yn gallu rheoli ffrydiau refeniw a phrosiectau peirianneg / adeiladu niferus ar yr un pryd

Werth ei wybod

Buddion

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:

• Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
• Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
• Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
• Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
• Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
• Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
• Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
• Cynllun beicio i'r gwaith
• Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
• Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
• Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
• Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
• Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.

Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.

Pwy ydyn ni

Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.

Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.

Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.

Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY

© Dŵr Cymru Cyf 2019.

Dŵr Cymru Welsh Water

About Dŵr Cymru Welsh Water

Bath-times, half-times, party-times, meeting-times, and cooking-times. Our water brings Wales to life! It helps 3 million people stay healthy and clean every day. It keeps businesses running smoothly and life flowing along.

At Welsh Water, we put every penny, every ounce of energy, and a lot of love into bringing Wales to life, by putting clean water into homes and businesses, and taking wastewater safely away.

We’re the engineers and scientists, rangers and customer advisors that keep the taps flowing and keep our customers happy. And we’re thousands of other incredibly diverse roles with National responsibility. All working to the highest standards of satisfaction. In a business where safety and care for every colleague is never compromised.

We’re in every community. And for every community. We’re Welsh Water. The people with the passion to bring futures to life in a business that brings Wales to life!

Privacy Policy: https://www.dwrcymru.com/privacy

Industry
Energy & Utilities
Company Size
1,001-5,000 employees
Headquarters
Cardiff, GB
Year Founded
1989
Social Media