Dŵr Cymru Welsh Water

Cynorthwyydd Manwerthu/ Caffi

Dŵr Cymru Welsh Water  •  Onsite  •  1 hour ago
Apply
AI can make mistakes so check important info. Chat history is never stored.

Job Description

Rhif Cais y Swydd 9530 Math o Waith Achlysurol Swyddogaeth y Swydd Hamdden a Chroeso Cwmpas Cyflog £13.45 Lleoliad Llyn Brenig

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

Byddwch yn ymuno â'n tîm gwych ac yn y rôl hon byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau, gan gynnwys:

  • Gwasanaethu cwsmeriaid a gweini byrddau
  • Gweithredu'r til, taliadau ag arian parod a cherdyn
  • Sicrhau bod gwasanaeth cwrtais a chyfeillgar yn cael ei ddarparu i bob cwsmer
  • Ymdrechu i ddatblygu a gwella'r profiad i gwsmeriaid a gynigir
  • Arddangos eitemau bwyd ac ailgyflenwi'r cownter
  • Sicrhau bod y byrddau a’r holl fannau yn cael eu cadw'n lân a’u bod ar gael i gwsmeriaid
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol gan y Rheolwr Arlwyo i ddiwallu anghenion y busnes

Amdanoch chi

  • Rydym yn chwilio am ymgeiswyr ag agwedd gadarnhaol, sy’n gyfeillgar, yn gallu gweithio ar eu liwt eu hunain, ac sy'n angerddol am weithio gyda'r cyhoedd!
  • Darperir hyfforddiant llawn ar gyfer y rôl hon, ond os oes gennych unrhyw brofiad o weithio yn y diwydiant gwasanaeth bwyd neu fanwerthu, byddai hynny'n fuddiol.

Werth ei wybod

  • Mae gennym swyddi tymhorol rhan-amser ar gael.
  • Mae cludiant eich hun yn hanfodol gan fod Llyn Brenig mewn lleoliad anghysbell ac nid oes gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus i’r safle.
  • Bydd angen gwiriad DBS manwl cyn y dyddiad dechrau ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus.
  • Mae hon yn rôl ar y safle a bydd yn cynnwys rhai penwythnosau, boreau cynnar, nosweithiau hwyr a gwyliau banc.
  • Mae Llyn Brenig ar agor 7 diwrnod yr wythnos, felly mae gweithio’n rheolaidd ar benwythnosau a gwyliau banc yn hanfodol.

Patrwm Gwaith

  • Sifftiau achlysurol i’w cytuno bob 6 wythnos.
  • Amserlen rota i’w threfnu bob 6 wythnos.
  • Bydd sifftiau’n cynnwys gwyliau banc, gwyliau ysgol a phob yn ail benwythnos.
  • Patrwm sifft nodweddiadol: Dydd Llun – Dydd Sul, 08:00 – 16:00/17:00 (i gwmpasu diwrnod gwaith 8 awr).
  • Penwythnosau a gwyliau ysgol yw ein cyfnodau prysuraf, a bydd mwy o oriau ar gael yn ystod yr adegau hyn.

I gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â: Lauren.Howell@dwrcymru.com a nodwch ID y swydd yn llinell pwnc yr e-bost.

Buddion

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:

  • Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
  • Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
  • Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
  • Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
  • Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
  • Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
  • Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
  • Cynllun beicio i'r gwaith
  • Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
  • Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
  • Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
  • Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
  • Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.

Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.

Pwy ydyn ni

Mae Llyn Brenig yn un o bum atyniad ymwelwyr godidog sy’n cael eu rhedeg gan Dŵr Cymru Welsh Water, gan groesawu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn i fwynhau anturiaethau awyr agored, teithiau cerdded mewn golygfeydd prydferth ac amser i ymlacio wrth ymyl y dŵr. Mae Llyn Brenig ar agor drwy gydol y flwyddyn, ac mae’r safle’n cynnwys caffi, ardal fanwerthu a chanolfan weithgareddau sy’n cynnig gweithgareddau ar y tir ac ar y dŵr.

Mae bwyd gwych wrth wraidd y profiadau hyn, ac fel Goruchwyliwr Arlwyo, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i wireddu hynny. Felly, dewch i ymuno â’n tîm brwdfrydig a gweithio yn un o’r safleoedd harddaf yng Ngogledd Cymru.

Eisiau gweld mwy? Cliciwch Yma i gael golwg ar ein gwefan – llynbrenig.com.

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY

© Dŵr Cymru Cyf 2019.

Dŵr Cymru Welsh Water

About Dŵr Cymru Welsh Water

Bath-times, half-times, party-times, meeting-times, and cooking-times. Our water brings Wales to life! It helps 3 million people stay healthy and clean every day. It keeps businesses running smoothly and life flowing along.

At Welsh Water, we put every penny, every ounce of energy, and a lot of love into bringing Wales to life, by putting clean water into homes and businesses, and taking wastewater safely away.

We’re the engineers and scientists, rangers and customer advisors that keep the taps flowing and keep our customers happy. And we’re thousands of other incredibly diverse roles with National responsibility. All working to the highest standards of satisfaction. In a business where safety and care for every colleague is never compromised.

We’re in every community. And for every community. We’re Welsh Water. The people with the passion to bring futures to life in a business that brings Wales to life!

Privacy Policy: https://www.dwrcymru.com/privacy

Industry
Energy & Utilities
Company Size
1,001-5,000 employees
Headquarters
Cardiff, GB
Year Founded
1989
Social Media