Capita

Arbenigwr Swyddogaethol – PIP (Siaradwyr Cymraeg)

Capita  •  £40k - £41k/yr  •  Wales, GB (Hybrid)  •  28 days ago
Apply
AI can make mistakes so check important info. Chat history is never stored.

Job Description

Darganfyddwch fath newydd o yrfa ym maes gofal iechyd fel arbenigwr swyddogaethol.

Ydych chi’n gweithio ym maes gofal iechyd ac yn chwilio am newid? Os ydych chi’n nyrs (RMN, RNLD, RGN), therapydd galwedigaethol, ffisiotherapydd neu barafeddyg, gallech ddefnyddio eich sgiliau mewn ffordd wahanol fel arbenigwr swyddogaethol. Yng Ngwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd Capita(HAAS), rydym yn darparu asesiadau diduedd a chynhwysfawr ar gyfer hawlwyr budd-daliadau anabledd y Llywodraeth (Taliad Annibyniaeth Personol – PIP), dros y ffôn, drwy alwad fideo neu wyneb yn wyneb, naill ai mewn canolfannau asesu neu yng nghartrefi’r hawlwyr.

Mae ein harbenigwyr swyddogaethol yn ysgrifennu adroddiadau sy’n helpu’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i wneud penderfyniadau pwysig ynghylch iechyd a gofal unigolion.

Efallai eich bod yn nyrs ar hyn o bryd ac yn awyddus i symud i ffwrdd o ddarparu gofal uniongyrchol – mae’r rôl hon yn cynnig y cyfle i ddatblygu eich sgiliau asesu a defnyddio eich gwybodaeth broffesiynol i wneud argymhellion clinigol pwysig. Neu efallai eich bod yn therapydd galwedigaethol, ffisiotherapydd neu barafeddyg sydd am ddysgu gwerthuso sefyllfaoedd mewn ffordd a lleoliad gwahanol. Rydym yn chwilio am unigolion tosturiol sydd â’r profiad i ddeall cyflwr iechyd neu anabledd hawlwyr a’r effaith ar eu bywydau bob dydd.

Mae’r rôl hon yn wahanol i broffesiynau gofal iechyd eraill, a dyna pam rydym yn cymryd hyfforddiant a datblygiad o ddifrif. Byddwch yn derbyn hyfforddiant cynhwysfawr gyda amser wedi’i neilltuo ar gyfer dysgu a datblygu personol.

Os ydych chi’n chwilio am newid, gan gynnwys oriau gwaith mwy rheolaidd, cyflog cystadleuol ac yn barod i ehangu eich sgiliau a’ch profiad, gallai hon fod y rôl i chi.

Eich Prif Gyfrifoldebau

  • Cynnal adolygiadau cychwynnol, asesiadau ar bapur, wyneb yn wyneb, drwy fideo neu dros y ffôn i werthuso sut mae cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar fywyd bob dydd hawlwyr
  • Arsylwi a chofnodi gallu unigolyn i gyflawni gweithgareddau
  • Dadansoddi a dehongli gwybodaeth glinigol a thystiolaeth ategol
  • Creu un adroddiad cynhwysfawr (3,000–4,000 gair) fesul hawlydd, hyd at uchafswm o dri y dydd
  • Sicrhau bod digon o fanylder, tystiolaeth a chyfiawnhad i gefnogi’r DWP wrth wneud penderfyniadau
  • Datblygu eich gwybodaeth glinigol a dysgu am gyflyrau iechyd llai cyfarwydd

Mae hon yn rôl hybrid, gyda disgwyliad y byddwch yn gweithio gartref a hefyd yn cael eich neilltuo i weithio o’ch canolfan asesu agosaf ar sail rota i gynnal asesiadau wyneb yn wyneb

Qualifications

Rydym yn chwilio am unigolion sydd â:

  • O leiaf blwyddyn o brofiad ôl‑gofrestru fel nyrs (RMN, RNLD, RGN), therapydd galwedigaethol, ffisiotherapydd neu barafeddyg
  • Cofrestriad llawn gyda’r corff rheoleiddio perthnasol yn y DU (NMC, HCPC neu debyg), heb gyfyngiadau nac amodau, a PIN dilys
  • Sgiliau arsylwi a chyfathrebu rhagorol, gan allu gwrando, empathïo a holi’n fanwl
  • Y gallu i weithio’n gyflym, cynhyrchu adroddiadau’n brydlon a chyrraedd targedau
  • Profiad cadarn o ddefnyddio TG a Microsoft Office, gan gynnwys mynediad o bell at systemau
  • Trwydded yrru ddilys gyfredol neu fynediad at ddull cludo i fynychu’r ganolfan asesu agosaf
  • Mae sgiliau Cymraeg (llafar a/neu ysgrifenedig) yn ddymunol er mwyn cefnogi defnyddwyr gwasanaeth yn effeithiol

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau fetio Safon Diogelwch Personél Sylfaenol y Llywodraeth yn llwyddiannus. Dyma’r safon gydnabyddedig ar gyfer sgrinio cyn‑cyflogaeth unigolion sydd â mynediad at asedau’r Llywodraeth.

Diffinnir y rôl hon fel gweithgaredd rheoledig yn ymwneud â phlant neu oedolion bregus o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Bregus 2006, ac mae wedi’i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Byddwch yn cael gwiriad troseddol uwch, a fydd yn dangos collfarnau a dreuliwyd a heb eu treulio.

Additional Information

Byddwch wedi’ch contractio i weithio 7.5 awr y dydd, 37.5 awr yr wythnos (llawn amser). Gellir cytuno ar eich oriau gwaith penodol gyda’ch rheolwr llinell ar ôl hyfforddiant. Bydd patrymau gwaith rhwng 8.00yb a 8.00yh.

Am Capita HAAS

Dyfarnwyd dau gontract i Capita i ddarparu asesiadau’r Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd (HAAS) yn y Canolbarth a Chymru ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), ac yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer yr Adran Cymunedau (DfC).

Mae HAAS yn wasanaeth newydd sy’n dod â gwasanaethau asesu presennol ar gyfer pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd o dan un darparwr mewn pob rhanbarth daearyddol, gan wneud mynediad at gymorth yn symlach ac yn haws i rai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.

Bydd Capita yn darparu asesiadau ar gyfer PIP, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) a Chredyd Cynhwysol (UC), ynghyd â nifer o fudd-daliadau arbenigol gan gynnwys Lwfans Byw i’r Anabl i Blant (DLA) ac asesiadau Veterans UK.

Mae Capita wedi bod yn darparu asesiadau PIP yn y Canolbarth a Chymru ers 2013, ac yng Ngogledd Iwerddon ers 2016.

Beth sydd ynddo i chi?

  • Cyflog cychwynnol cystadleuol o £39,500, yn codi i £40,500 ar ôl cael cymeradwyaeth gan y DWP
  • Cymhwyster ar gyfer cynllun bonws yn seiliedig ar ansawdd a pherfformiad
  • 25 diwrnod o wyliau (yn codi i 27 ar ôl 5 mlynedd) gyda’r opsiwn i brynu gwyliau ychwanegol
  • Ad-dalu ffi gofrestru proffesiynol flynyddol a chefnogaeth ad-ddilysu
  • Cyfle i gymryd diwrnod â thâl i wirfoddoli gyda’n partneriaid elusennol neu achos o’ch dewis
  • Pensiwn cyfraniad cyfatebol y cwmni, yswiriant bywyd, cynllun beicio i’r gwaith, 15 wythnos o absenoldeb mamolaeth , mabwysiadu ac absenoldeb rhiant a rennir â thâl llawn, a thâl tadolaeth o bythefnos
  • Mynediad at fuddion gostyngol ar gyfer manwerthu, iechyd a lles, teithio a thechnoleg
  • Cynllun gwobrwyo argymell ffrind
  • Mynediad at ap Headspace i chi a hyd at 5 aelod o’r teulu neu ffrindiau
  • Mynediad at Rwydweithiau Gweithwyr sy’n cynrychioli pob agwedd ar amrywiaeth ac yn hyrwyddo amgylchedd gwaith cynhwysol

Bydd gennych gyfle i ddilyn eich llwybr gyrfa eich hun o fewn Capita, gan ymuno â rhwydwaith o weithwyr profiadol, arloesol ac ymroddedig ar draws sawl disgyblaeth a sector.

Beth i’w wneud nesaf

Dewiswch “Mae gen i Ddiddordeb” i gwblhau ein cais byr er mwyn i ni gael gwybod mwy amdanoch.

Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn ystyried pob ymgeisydd cymwys waeth beth fo hunaniaeth neu fynegiant rhywedd, tarddiad ethnig, cenedligrwydd, crefydd neu gred, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, statws anabledd neu unrhyw nodwedd warchodedig arall.

Fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, byddwn yn sicrhau bod nifer deg a chymesur o ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol yn cael cynnig cyfweliad. Am ragor o wybodaeth neu i drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â:
haasrecruitment@capita.com neu 0300 303 8544

Capita

About Capita

Capita is an outsourcer, helping clients across the public and private sectors run complex business processes more efficiently, creating better consumer experiences.

Operating across eight countries, Capita’s 34,000 colleagues support primarily UK and European clients with people-based services underpinned by market-leading technology.

We’re a vital support service for our clients, enabling the everyday interactions that we expect to run seamlessly, to run seamlessly.

A publicly listed business with adjusted revenue of £2.4bn, Capita’s areas of focus are Central Government, Local Public Service, Defence, Learning, Fire & Security, Contact Centres and Pensions Solutions.

We’re embracing change to respond to the ever-changing needs of society, creating better outcomes for all our stakeholders.

Industry
IT & Software
Company Size
10,000+ employees
Headquarters
London, GB
Year Founded
1984
Social Media